P-04-614
Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains
Cymru
Testun y ddeiseb
Credir y bydd Trenau Arriva Cymru yn cyhoeddi cyn bo hir eu bwriad
i ddod â'u gwasanaeth dosbarth cyntaf rhwng Caergybi a
Chaerdydd i ben. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o'u gwasanaeth
'Premier', sy'n rhedeg bob diwrnod gwaith.
Mae'n debyg mai ymateb fydd hyn i benderfyniad Llywodraeth Cymru i
roi'r gorau i ariannu'r gwasanaeth hwn ddechrau 2015.
Mae'r ddeiseb hon yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried eu
penderfyniad i roi'r gorau i ariannu'r gwasanaeth gwerthfawr a
phoblogaidd hwn, neu o leiaf i annog Trenau Arriva Cymru i barhau
â'r gwasanaeth cystal ag y gallant drwy ddulliau
eraill.
Gwybodaeth Ychwanogol
Y gwasanaeth dosbarth cyntaf hwn gan Trenau Arriva Cymru (neu
wasanaeth Gerallt Gymro, fel y caiff ei alw hefyd) yw un o'r
ychydig wasanaethau rheolaidd ar rwydwaith rheilffyrdd Prydain sy'n
parhau i gynnig prydau bwyd o safon.
Byddai'n drueni mawr colli'r gwasanaeth hwn, nid yn unig o safbwynt
y teithwyr, ond hefyd o safbwynt y staff a'r criw ar y trên
sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod teithio ar y trên
hwn yn brofiad mor werth chweil.
Prif ddeisebydd:
Gareth Peate
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer y llofnodion:
54